No themes applied yet
Emyn o fawl
1Haleliwia!
Molwch enw’r ARGLWYDD!
Addolwch e, chi sy’n gwasanaethu’r ARGLWYDD
2ac sy’n sefyll yn nheml yr ARGLWYDD,
yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw.
3Molwch yr ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda!
Canwch i’w enw, mae’n hyfryd cael gwneud hynny!
4Mae’r ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo’i hun,
ac Israel fel ei drysor sbesial.
5Dw i’n gwybod fod yr ARGLWYDD yn fawr;
mae ein Duw ni yn well na’r ‘duwiau’ eraill i gyd.
6Mae’r ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau,
yn y nefoedd, ar y ddaear,
ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn.
7Mae e’n gwneud i’r cymylau godi ym mhen draw’r ddaear;
mae’n anfon mellt gyda’r glaw,
ac yn dod â’r gwynt allan o’i stordai.
8Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft,
a’r anifeiliaid cyntafanedig hefyd.
9Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifft
yn erbyn y Pharo a’i weision i gyd;
10Concrodd lawer o wledydd
a lladd nifer o frenhinoedd –
11Sihon, brenin yr Amoriaid,
Og, brenin Bashan,
a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd.
12Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –
yn etifeddiaeth i’w bobl Israel.
13O ARGLWYDD, mae dy enw di’n para am byth,
ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau.
14Mae’r ARGLWYDD yn amddiffyn ei bobl
ac yn tosturio wrth ei weision.
15Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur,
wedi’u siapio gan ddwylo dynol.
16Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;
llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
17clustiau, ond allan nhw ddim clywed.
Does dim bywyd ynddyn nhw!
18Mae’r bobl sy’n eu gwneud nhw,
a’r bobl sydd yn eu haddoli hefyd,
yn troi’n debyg iddyn nhw!
19Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi bobl Israel!
Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi offeiriaid!
20Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi Lefiaid!
Bendithiwch yr ARGLWYDD, chi rai ffyddlon yr ARGLWYDD!
21Boed i’r ARGLWYDD, sy’n byw yn Jerwsalem,
gael ei fendithio yn Seion!
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015