No themes applied yet
Gweddi am help
Salm Dafydd.
1ARGLWYDD, dw i’n galw arnat: brysia! Helpa fi!
Gwranda arna i’n galw arnat ti.
2Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth,
a’m dwylo sydd wedi’u codi fel aberth yr hwyr.
3O ARGLWYDD, gwarchod fy ngheg
a gwylia ddrws fy ngwefusau.
4Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg,
na gwneud dim gyda dynion sydd felly!
Cadw fi rhag bwyta’u danteithion.
5Boed i rywun sy’n byw’n gywir ddod i’m taro i,
a’m ceryddu mewn cariad!
Dyna’r olew gorau – boed i’m pen beidio’i wrthod.
Dw i’n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.
6Pan fyddan nhw’n syrthio i ddwylo’r Graig, eu Barnwr,
byddan nhw’n gwerthfawrogi beth ddwedais i.
7Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi’r pridd,
mae ein hesgyrn wedi’u gwasgaru wrth geg Annwn.141:7 Annwn Hebraeg, Sheol, sef “y byd tanddaearol lle mae’r meirw yn mynd”.
8Arnat ti dw i’n edrych, O ARGLWYDD, fy Meistr;
dw i’n dod atat am loches, paid a’m gadael mewn perygl!
9Cadw fi i ffwrdd o’r trapiau maen nhw wedi’u gosod,
ac oddi wrth faglau’r rhai drwg.
10Gad iddyn nhw syrthio i’w rhwydi eu hunain,
tra dw i’n llwyddo i ddianc.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015