No themes applied yet
Diolch am fuddugoliaeth
Salm Dafydd.
1Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i!
Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd,
a’m bysedd i frwydro.
2Mae’r Un ffyddlon fel castell o’m cwmpas;
fy hafan ddiogel a’r un sy’n fy achub i.
Fy nharian, a’r un dw i’n cysgodi ynddo.
Mae e’n gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi.
3O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?
Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?
4Mae pobl fel tarth.
Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.
5O ARGLWYDD, gwthia’r awyr o’r ffordd, a thyrd i lawr!
Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!
6Gwna i fellt fflachio a chwala’r gelyn!
Anfon dy saethau i lawr a’u gyrru nhw ar ffo!
7Estyn dy law i lawr o’r entrychion.
Achub fi! Tynna fi allan o’r dŵr dwfn!
Achub fi o afael estroniaid
8sy’n dweud celwyddau
ac sy’n torri pob addewid.
9O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,
i gyfeiliant offeryn dectant.
10Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,
ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.
11Achub fi o afael estroniaid
sy’n dweud celwyddau
ac sy’n torri pob addewid.
12Bydd ein meibion fel planhigion ifanc
wedi tyfu yn eu hieuenctid;
a’n merched fel y pileri ar gorneli’r palas,
wedi’u cerfio i harddu’r adeilad.
13Bydd ein hysguboriau’n llawn
o bob math o fwyd;
a bydd miloedd o ddefaid,
ie, degau o filoedd, yn ein caeau.
14Bydd ein gwartheg yn iach –
heb bla a heb erthyliad;
a fydd dim wylo yn y strydoedd.
15Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly.
Mae’r bobl sydd â’r ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhw
wedi’u bendithio’n fawr!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015