No themes applied yet
Y brenin mae’r ARGLWYDD wedi’i ddewis
1Pam mae’r cenhedloedd yn gwrthryfela?
Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
2Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad;
ac mae’r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd
yn erbyn yr ARGLWYDD a’r un mae wedi’i ddewis,2:2 wedi’i ddewis Hebraeg, “eneiniog”. y brenin.
3“Gadewch i ni dorri’n rhydd o’u cadwynau,
a thaflu’r rhaffau sy’n ein rhwymo i ffwrdd!”
4Mae’r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin –
maen nhw’n destun sbort i’r ARGLWYDD!
5Wedyn mae’n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,
ac yn dweud wrthyn nhw’n ddig:
6“Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion,
fy mynydd cysegredig!”
7Gadewch i mi ddweud beth mae’r ARGLWYDD wedi’i ddatgan:
dwedodd wrtho i,
“Ti ydy fy mab i;
heddiw des i’n dad i ti.
8Dim ond i ti ofyn,
cei etifeddu’r cenhedloedd.
Bydd dy ystad di’n ymestyn i ben draw’r byd.
9Byddi’n eu malu â phastwn haearn
yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
10Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth;
dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
11Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch;
byddwch yn falch ei fod wedi’ch dychryn chi!
12Plygwch, a thalu teyrnged i’r2:12 a thalu teyrnged i’r Hebraeg, “a cusanu’r”. mab;
neu bydd yn digio, a cewch eich difa
pan fydd yn dangos mor ddig ydy e.
Mae pawb sy’n troi ato am loches
wedi’u bendithio’n fawr!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015