No themes applied yet
Duw ydy’r Brenin mawr!
Salm Dafydd.
1Yr ARGLWYDD piau’r ddaear a phopeth sydd ynddi:
y byd, a phawb sy’n byw ynddo.
2Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,
a’i sefydlu ar ffrydiau’r dyfnder.
3Pwy sy’n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?
Pwy sy’n cael sefyll yn ei deml sanctaidd?
4Yr un sy’n gwneud beth sy’n iawn a’i gymhellion yn bur;
yr un sydd ddim yn twyllo
neu’n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
5Mae’r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;
byddan nhw’n cael eu derbyn
i berthynas iawn gyda’r Duw sy’n achub.
6Dyma’r math o bobl sy’n cael troi ato:
y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob.
Saib
7Giatiau’r ddinas, edrychwch!
Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,
er mwyn i’r Brenin gwych gael dod i mewn!
8Pwy ydy’r Brenin gwych yma?
Yr ARGLWYDD, cryf a dewr,
Yr ARGLWYDD sy’n ennill pob brwydr!
9Giatiau’r ddinas, edrychwch!
Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,
er mwyn i’r Brenin gwych gael dod i mewn!
10Pwy ydy’r Brenin gwych yma? –
Yr ARGLWYDD hollbwerus!
Fe ydy’r Brenin gwych!
Saib
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015