No themes applied yet
Gweddi o ymroddiad i Dduw
Salm Dafydd.
1Mae’r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i;
does gen i ofn neb.
Mae’r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i,
does neb yn fy nychryn.
2Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i
i’m llarpio fel ysglyfaeth –
nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu),
ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.
3Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i,
fyddai gen i ddim ofn.
Petai rhyfel ar fin torri allan,
byddwn i’n gwbl hyderus.
4Gofynnais i’r ARGLWYDD am un peth –
dyma beth dw i wir eisiau:
dw i eisiau aros yn nhŷ’r ARGLWYDD
am weddill fy mywyd,
i ryfeddu ar haelioni’r ARGLWYDD,
a myfyrio yn ei deml.
5Bydd e’n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl;
bydda i’n saff yn ei babell.
Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel,
allan o gyrraedd y gelyn.
6Bydda i’n ennill y frwydr
yn erbyn y gelynion sydd o’m cwmpas.
Bydda i’n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi’n llawen.
Bydda i’n canu ac yn cyfansoddi cerddoriaeth i foli’r ARGLWYDD.
7O ARGLWYDD, gwranda arna i’n galw arnat ti.
Bydd yn garedig ata i. Ateb fi!
8Dw i’n gwybod dy fod ti’n dweud, “Ceisiwch fi.”
Felly, ARGLWYDD, dw i’n dy geisio di.
9Paid troi cefn arna i. Paid gwthio fi i ffwrdd.
Ti sy’n gallu fy helpu i.
Paid gwrthod fi! Paid â’m gadael i.
O Dduw, ti ydy’r un sy’n fy achub i.
10Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i,
byddai’r ARGLWYDD yn gofalu amdana i.
11Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD.
Arwain fi ar hyd y llwybr iawn,
achos mae’r rhai sy’n fy nghasáu yn fy ngwylio i.
12Paid gadael i’m gelynion i gael eu ffordd.
Mae tystion celwyddog yn codi
ac yn tystio yn fy erbyn i.
13Ond dw i’n gwybod yn iawn
y bydda i’n profi daioni’r ARGLWYDD
ar dir y byw!
14Gobeithia yn yr ARGLWYDD.
Bydd yn ddewr ac yn hyderus.
Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015