No themes applied yet
Cyffes a maddeuant
Salm Dafydd. Mascîl.
1Mae’r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel
wedi’i fendithio’n fawr,
mae ei bechodau wedi’u symud o’r golwg am byth.
2Mae’r un dydy’r ARGLWYDD ddim yn dal ati
i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi’i fendithio’n fawr –
yr un fyddai byth yn twyllo neb.
3Pan oeddwn i’n cadw’n ddistaw am y peth,
roedd fy esgyrn yn troi’n frau
ac roeddwn i’n tuchan mewn poen drwy’r dydd.
4Roeddet ti’n fy mhoenydio i nos a dydd;
doedd gen i ddim egni,
fel pan mae’r gwres yn llethol yn yr haf.
Saib
5Ond wedyn dyma fi’n cyfaddef fy mhechod.
Wnes i guddio dim byd.
“Dw i’n mynd i gyffesu’r cwbl i’r ARGLWYDD,” meddwn i,
ac er fy mod i’n euog dyma ti’n maddau’r cwbl.
Saib
6Felly, pan mae rhywun sy’n dy ddilyn di’n ffyddlon
yn darganfod ei fod wedi pechu,
dylai weddïo arnat ti
rhag i’r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd.
7Ti ydy’r lle saff i mi guddio!
Ti’n fy amddiffyn i rhag trafferthion.
Mae pobl o’m cwmpas yn dathlu’n llawen
am dy fod ti wedi fy achub i.
Saib
8“Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi,
a’ch helpu chi i wybod sut i fyw.
Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.”
9Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul
sy’n gwrthod bod yn ufudd,
neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno.
10Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr,
ond mae’r ARGLWYDD yn hollol ffyddlon
i’r rhai sy’n ei drystio fe.
11Felly, chi sy’n gwneud beth sy’n iawn,
dathlwch beth mae’r ARGLWYDD wedi’i wneud. Gorfoleddwch!
Bloeddiwch yn llawen, bawb sy’n byw’n gywir!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015