No themes applied yet
Gweddi am faddeuant
I’r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, ar ôl i’r proffwyd Nathan fynd ato a’i geryddu am gysgu gyda Bathseba.51:0 2 Samuel 12
1O Dduw, dangos drugaredd ata i;
rwyt ti mor llawn cariad.
Gan dy fod ti mor barod i dosturio,
wnei di ddileu’r gwrthryfel oedd yno i?
2Golcha’r drygioni ohono i’n llwyr,
a phura fi o’m pechod.
3Dw i’n cyfaddef mod i wedi tynnu’n groes,
a dw i’n ymwybodol iawn o’m methiant.
4Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti,
a gwneud beth sy’n ddrwg yn dy olwg.
Mae beth rwyt ti’n ddweud yn hollol deg,
ac rwyt ti’n iawn i’m cosbi i.
5Y gwir ydy, ces fy ngeni’n bechadur;
roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i.
6Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn;
rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth.
7Pura fi ag isop, i’m gwneud yn hollol lân;
golcha fi, nes bydda i’n lanach nag eira.
8Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto;
rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto.
9Paid edrych ar fy mhechodau i;
dilea’r drygioni i gyd.
10Crea galon lân yno i, O Dduw,
a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.
11Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti,
na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i.
12Gad i mi brofi’r wefr eto o gael fy achub gen ti,
a gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti.
13Wedyn bydda i’n dysgu’r rhai sy’n gwrthryfela i dy ddilyn di,
a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.
14Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw.
Ti ydy’r Duw sy’n fy achub i,
a bydda i’n canu am dy faddeuant di.
15O ARGLWYDD, agor fy ngheg,
i mi gael dy foli.
16Nid aberthau sy’n dy blesio di,
a dydy offrwm i’w losgi ddim yn dy fodloni di.
17Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi’i ddryllio,
calon wedi’i thorri, ac ysbryd sy’n edifar –
wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.
18Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi!
Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto!
19Wedyn bydd aberthau sy’n cael eu cyflwyno’n iawn,
ac offrymau cyflawn i’w llosgi, yn dy blesio di;
a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015