No themes applied yet
Gweddi daer am help
I’r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Ar yr wythfed.6:0 wythfed Falle mai cyfeiriad at offeryn cerdd gydag wyth tant sydd yma. Salm Dafydd.
1O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a’m cosbi i,
paid dweud y drefn yn dy wylltineb.
2Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan.
Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i’n crynu at yr asgwrn.
3Dw i wedi dychryn am fy mywyd,
ac rwyt ti, ARGLWYDD …
– O, am faint mwy?
4ARGLWYDD, tyrd! Achub fi!
Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi’n rhydd!
5Dydy’r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di.
Pwy sy’n dy foli di yn ei fedd?
6Dw i wedi blino tuchan.
Mae fy ngwely’n wlyb gan ddagrau bob nos;
mae dagrau wedi socian lle dw i’n gorwedd.
7Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder,
dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion.
8Ewch i ffwrdd, chi sy’n gwneud drwg!
Mae’r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i’n crio.
9Mae wedi fy nghlywed i’n pledio am help.
Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi.
10Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a’u dychryn.
Byddan nhw’n troi yn ôl yn sydyn, wedi’u siomi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015