No themes applied yet
Cân o fawl a diolch
I’r arweinydd cerdd: cân. Salm.
1Gwaeddwch yn uchel i Dduw,
holl bobl y byd!
2Canwch gân i ddweud mor wych ydy e,
a’i foli’n hyfryd.
3Dwedwch wrth Dduw,
“Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol!
Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.
4Mae’r byd i gyd yn dy addoli,
ac yn canu mawl i ti!
Maen nhw’n dy foli di ar gân!”
Saib
5Dewch i weld beth wnaeth Duw.
Mae’r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.
6Trodd y môr yn dir sych,
a dyma nhw’n cerdded drwy’r afon!
Gadewch i ni ddathlu’r peth!
7Mae e’n dal i deyrnasu yn ei nerth,
ac mae’n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;
felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn.
Saib
8O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni;
gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!
9Fe sy’n ein cadw ni’n fyw;
dydy e ddim wedi gadael i’n traed lithro.
10Ti wedi’n profi ni, O Dduw,
a’n puro ni fel arian mewn ffwrnais.
11Ti wedi’n dal ni mewn rhwyd,
a gwneud i ni ddioddef baich trwm.
12Ti wedi gadael i bobl farchogaeth droson ni.
Dŷn ni wedi bod drwy ddŵr a thân,
ond ti wedi dod â ni drwy’r cwbl i brofi digonedd.
13Dw i’n dod i dy deml ag offrymau llosg
ac yn cadw fy addewidion,
14drwy wneud popeth wnes i addo
pan oeddwn i mewn trafferthion.
15Dw i’n dod ag anifeiliaid wedi’u pesgi yn offrymau llosg –
arogl hyrddod yn cael eu llosgi,
teirw a geifr yn cael eu haberthu.
Saib
16Dewch i wrando, chi sy’n addoli Duw,
i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi.
17Dyma fi’n gweiddi’n uchel arno am help
– roeddwn i’n barod i’w foli.
18Petawn i’n euog o feddwl yn ddrwg amdano,
fyddai’r ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i.
19Ond dyma Duw yn clywed,
a gwrando ar fy ngweddi.
20Mae Duw yn haeddu ei foli!
Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi,
na bod yn anffyddlon i mi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015