No themes applied yet
Cri am help
I’r arweinydd cerdd: ar yr alaw “Lilïau”. Salm Dafydd.
1Achub fi, O Dduw,
mae’r dŵr i fyny at fy ngwddf.
2Dw i’n suddo mewn cors ddofn,
a does dim byd i mi sefyll arno.
Dw i mewn dyfroedd dyfnion,
ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd.
3Dw i wedi blino gweiddi am help;
mae fy ngwddf yn sych;
mae fy llygaid yn cau
ar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw.
4Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i
nag sydd o flew ar fy mhen.
Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i,
ac eisiau fy nistrywio i.
Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn?
5O Dduw, rwyt ti’n gwybod gymaint o ffŵl ydw i.
Dydy’r pethau dw i’n euog o’u gwneud
ddim wedi’u cuddio oddi wrthot ti.
6Paid gadael i’r rhai sy’n dy drystio di fod â chywilydd ohono i,
Feistr, ARGLWYDD hollbwerus.
Paid gadael i’r rhai sy’n dy ddilyn di gael eu bychanu,
O Dduw Israel.
7Ti ydy’r rheswm pam dw i’n cael fy sarhau,
a’m cywilyddio.
8Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i;
dw i fel rhywun estron i’m brodyr a’m chwiorydd.
9Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i;
dw i’n cael fy sarhau gan y rhai sy’n dy sarhau di.
10Hyd yn oed pan oeddwn i’n wylo ac yn ymprydio
roeddwn i’n destun sbort.
11Roedd pobl yn gwneud hwyl am fy mhen
pan oeddwn i’n gwisgo sachliain.
12Mae’r rhai sy’n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i;
a dw i’n destun cân i’r meddwon.
13O ARGLWYDD, dw i’n gweddïo arnat ti
ac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i.
O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon,
ateb fi ac achub fi.
14Tynna fi allan o’r mwd yma.
Paid gadael i mi suddo!
Achub fi rhag y bobl sy’n fy nghasáu i –
achub fi o’r dŵr dwfn.
15Paid gadael i’r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd!
Paid gadael i’r dyfnder fy llyncu.
Paid gadael i geg y pwll gau arna i.
16Ateb fi, ARGLWYDD;
rwyt ti mor ffyddlon.
Tro ata i, gan dy fod ti mor drugarog;
17Paid troi dy gefn ar dy was –
dw i mewn trafferthion,
felly brysia! Ateb fi!
18Tyrd yma! Gollwng fi’n rhydd!
Gad i mi ddianc o afael y gelynion.
19Ti’n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau,
a’m bychanu a’m cywilyddio.
Ti’n gweld y gelynion i gyd.
20Mae’r sarhau wedi torri fy nghalon i.
Dw i’n anobeithio.
Dw i’n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim;
am rai i’m cysuro, ond does neb.
21Yn lle hynny maen nhw’n rhoi gwenwyn yn fy mwyd,
ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched.
22Gad i’w bwrdd bwyd droi’n fagl iddyn nhw,
ac yn drap i’w ffrindiau nhw.
23Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall.
Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy’r adeg.
24Tywallt dy ddicter arnyn nhw.
Gwylltia’n gynddeiriog gyda nhw.
25Gwna eu gwersylloedd nhw’n anial,
heb neb yn byw yn eu pebyll!
26Maen nhw’n blino y rhai rwyt ti wedi’u taro,
ac yn siarad am boen y rhai rwyt ti wedi’u hanafu.
27Ychwanega hyn at y pethau maen nhw’n euog o’u gwneud.
Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd!
28Rhwbia’u henwau oddi ar sgrôl y rhai sy’n fyw,
Paid rhestru nhw gyda’r bobl sy’n iawn gyda ti.
29Ond fi – yr un sy’n dioddef ac mewn poen –
O Dduw, achub fi a chadw fi’n saff.
30Dw i’n mynd i ganu cân o fawl i Dduw,
a’i ganmol a diolch iddo.
31Bydd hynny’n plesio’r ARGLWYDD fwy nag ych,
neu darw gyda chyrn a charnau.
32Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu.
Felly codwch eich calonnau, chi sy’n ceisio dilyn Duw!
33Mae’r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen,
a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy’n gaeth.
34Boed i’r nefoedd a’r ddaear ei foli,
a’r môr hefyd, a phopeth sydd ynddo!
35Oherwydd bydd Duw yn achub Seion
ac yn adeiladu trefi Jwda eto.
Bydd y bobl sy’n ei wasanaethu
yn byw yno ac yn meddiannu’r wlad.
36Bydd eu disgynyddion yn ei hetifeddu,
a bydd y rhai sy’n caru ei enw yn cael byw yno.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015