No themes applied yet
Gweddi am help i drechu’r gelynion
Cân. Salm gan Asaff.
1O Dduw, paid bod yn ddistaw!
Paid diystyru ni a gwneud dim!
2Edrych! Mae dy elynion di’n codi twrw.
Mae’r rhai sy’n dy gasáu di yn codi eu pennau.
3Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di.
Maen nhw am wneud niwed i’r rhai rwyt ti’n eu trysori!
4Maen nhw’n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw’n llwyr!
Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.”
5Maen nhw’n unfrydol yn eu bwriad,
ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di –
6pobl Edom a’r Ismaeliaid, Moab a’r Hagriaid,
7Gebal, Ammon, ac Amalec, Philistia a phobl Tyrus.
8Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd,
i roi help llaw i ddisgynyddion Lot.83:8 disgynyddion Lot Sef y Moabiaid a’r Ammoniaid. Merch hynaf Lot oedd mam y Moabiaid, a’i ferch ifancaf oedd mam yr Ammoniaid (gw. Genesis 19:30-38).
Saib
9Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda Midian83:9 Barnwyr 7–8 –
fel y gwnest ti i Sisera a Jabin,
wrth afon Cison.83:9 Barnwyr 4–5
10Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor.
Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir!
11Delia gyda’u harweinwyr nhw
fel y gwnest ti gydag Oreb a Seëb.83:11 Barnwyr 7:24-25
Gwna eu tywysogion nhw
fel Seba a Tsalmwna,83:11 Barnwyr 8:1-21
12oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw.
13O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall,
neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt!
14Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig,
a’i fflamau’n lledu dros y bryniau.
15Dos ar eu hôl nhw â’th storm,
a’u dychryn nhw â’th gorwynt.
16Coda gywilydd arnyn nhw,
a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O ARGLWYDD.
17Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben!
Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth!
18Byddan nhw’n deall wedyn mai ti ydy’r ARGLWYDD,
ie, ti yn unig!
Ti ydy’r Duw Goruchaf sy’n rheoli’r byd i gyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015