No themes applied yet
Y ddau dyst
1Dyma wialen hir fel ffon fesur yn cael ei rhoi i mi, a dwedwyd wrtho i, “Dos i fesur teml Dduw a’r allor, a hefyd cyfri faint o bobl sy’n addoli yno. 2Ond paid cynnwys y cwrt allanol, am fod hwnnw wedi’i roi i bobl o genhedloedd eraill. Byddan nhw’n cael rheoli’r ddinas sanctaidd am bedwar deg dau mis.11:2 gw. Luc 21:24 3Yna bydda i’n rhoi awdurdod i’r ddau dyst sydd gen i, a byddan nhw’n gwisgo sachliain ac yn proffwydo am fil dau gant a chwe deg diwrnod.” 4Nhw ydy’r ddwy goeden olewydd a’r ddwy ganhwyllbren sy’n sefyll o flaen Arglwydd y ddaear.11:4 adlais o Sechareia 4:11-14 5Os oes rhywun yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw, mae tân yn dod allan o’u cegau ac yn dinistrio’u gelynion. Dyna sut mae unrhyw un sydd am wneud niwed iddyn nhw yn marw. 6Maen nhw wedi cael yr awdurdod i wneud iddi beidio glawio yn ystod y cyfnod pan maen nhw’n proffwydo; ac mae ganddyn nhw’r gallu i droi dyfroedd yn waed ac i daro’r ddaear â phlâu mor aml â maen nhw eisiau.11:6 a 1 Brenhinoedd 17:1; b Exodus 7:17-19
7Ond pan fydd yr amser iddyn nhw dystio ar ben, bydd yr anghenfil sy’n dod allan o’r pwll diwaelod yn ymosod arnyn nhw, ac yn eu trechu a’u lladd. 8Bydd eu cyrff yn gorwedd ar brif stryd y ddinas fawr (sy’n cael ei galw yn broffwydol yn ‘Sodom’ ac ‘Aifft’) – y ddinas lle cafodd eu Harglwydd nhw ei groeshoelio. 9Am dri diwrnod a hanner bydd pobl o bob hil, llwyth, iaith a chenedl yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu claddu. 10Bydd y bobl sy’n perthyn i’r ddaear wrth eu bodd ac yn dathlu a rhoi anrhegion i’w gilydd, am fod y ddau broffwyd yma wedi bod yn gymaint o boen iddyn nhw.
11Ond, ar ôl tri diwrnod a hanner daeth anadl oddi wrth Dduw i roi bywyd ynddyn nhw, a dyma nhw’n sefyll ar eu traed. Roedd pawb welodd nhw wedi dychryn am eu bywydau. 12Wedyn dyma nhw’n clywed llais pwerus o’r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i’r nefoedd, tra oedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.
13Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o’r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n dechrau clodfori Duw’r nefoedd mewn panig.
14Mae’r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
Y seithfed utgorn
15Dyma’r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud:
“Mae teyrnas y byd
wedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a’i Feseia,
a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
16A dyma’r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, 17gan ddweud:
“Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog,
yr Un sydd ac oedd,
am gymryd yr awdurdod sydd gen ti
a dechrau teyrnasu.
18Roedd y cenhedloedd wedi gwylltio;11:18 Salm 2:1
ond nawr mae’n amser i ti fod yn ddig.
Mae’r amser wedi dod i farnu y rhai sydd wedi marw,
ac i wobrwyo dy weision y proffwydi
a’th bobl dy hun, a’r rhai sy’n parchu dy enw di,
yn fawr a bach –
a hefyd i ddinistrio’n llwyr
y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”
19Yna dyma ddrysau teml Dduw yn y nefoedd yn agor, ac roedd modd gweld arch yr ymrwymiad11:19 arch yr ymrwymiad: Yn yr Hen Destament roedd yr arch yn symbol o’r ffaith fod Duw gyda’i bobl. y tu mewn iddi. Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn a storm fawr o genllysg.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015