No themes applied yet
Y 144,000 o bobl Israel
1Wedyn ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear – gogledd, de, dwyrain a gorllewin. Roedden nhw’n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden. 2Wedyn dyma fi’n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i’r tir a’r môr: 3“Peidiwch gwneud niwed i’r tir na’r môr na’r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen7:3 cyfeiriad at Eseciel 9:4 y rhai sy’n ei wasanaethu.” 4Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda’r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:
5Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda,
deuddeg mil o lwyth Reuben,
deuddeg mil o lwyth Gad,
6deuddeg mil o lwyth Aser,
deuddeg mil o lwyth Nafftali,
deuddeg mil o lwyth Manasse,
7deuddeg mil o lwyth Simeon,
deuddeg mil o lwyth Lefi,
deuddeg mil o lwyth Issachar,
8deuddeg mil o lwyth Sabulon,
deuddeg mil o lwyth Joseff,
a deuddeg mil o lwyth Benjamin.
Y dyrfa enfawr yn gwisgo mentyll gwynion
9Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o mlaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw’n dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw’n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo. 10Roedden nhw’n gweiddi’n uchel:
“Ein Duw sydd wedi’n hachub ni! –
yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd,
a’r Oen!”
11Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a’r pedwar creadur byw. A dyma nhw’n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw, 12gan ddweud:
“Amen!
Y mawl a’r ysblander,
y doethineb a’r diolch,
yr anrhydedd a’r gallu a’r nerth –
Duw biau’r cwbl oll, am byth bythoedd!
Amen!”
13Yna dyma un o’r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti’n gwybod pwy ydy’r bobl hyn sy’n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?” 14“Na, ti sy’n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma’r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen. 15Dyna pam maen nhw yma’n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw’n saff. 16Fyddan nhw byth eto’n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch.7:16 cyfeiriad at Eseia 49:10 17Oherwydd bydd yr Oen sydd wrth yr orsedd yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd. 7:17 adlais o Eseia 49:9-10; Salm 23:1-2 A bydd Duw yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015