No themes applied yet
Trasiedi’r teulu wnaeth symud i wlad Moab
1Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â’i wraig a’i ddau fab gydag e. 2Elimelech oedd enw’r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion1:2 Machlon a Cilion Ystyr yr enwau ydy “salwch” a “bregus” – falle yn adlewyrchu eu cyflwr ar ôl eu geni. oedd enwau’r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw’n mynd i wlad Moab ac yn aros yno. 3Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a’i gadael hi yn weddw gyda’i dau fab.
4Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd, 5dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.
Ruth yn aros gyda Naomi
6Tra oedd hi’n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i’w bobl. Felly, dyma hi a’i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab. 7Dyma nhw’n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a chychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda. 8Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw. 9A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi’ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu’r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw’n dechrau crio’n uchel. 10“Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.” 11Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Gaf i byth feibion eto i chi eu priodi nhw. 12Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i’n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau’n cael gŵr heno ac yn cael plant, 13fyddech chi’n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi’n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.”
14Dyma nhw’n dechrau crio’n uchel eto. Wedyn dyma Orpa’n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio’n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael. 15Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” 16Ond atebodd Ruth,
“Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di
a throi cefn arnat ti.
Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd.
A dw i’n mynd i aros ble bynnag fyddi di’n aros.
Bydd dy bobl di yn bobl i mi,
a dy Dduw di yn Dduw i mi.
17Ble bynnag fyddi di’n marw,
dyna lle fyddai i’n marw
ac yn cael fy nghladdu.
Boed i Dduw ddial arna i
os bydd unrhyw beth ond marwolaeth
yn ein gwahanu ni’n dwy.”
18Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth. 19A dyma’r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem.
Naomi a Ruth yn cyrraedd Bethlehem
Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?” 20A dyma hi’n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‘Naomi’. Galwch fi’n ‘Mara’. Mae’r Un sy’n rheoli popeth1:20 Hebraeg, Shadai. wedi gwneud fy mywyd i’n chwerw iawn. 21Roedd fy mywyd i’n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi’n ‘Naomi’ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a’r Un sy’n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”
22Felly daeth Naomi yn ôl o wlad Moab gyda’i merch-yng-nghyfraith, Ruth, y Foabes. Dyma nhw’n cyrraedd Bethlehem ar ddechrau’r cynhaeaf haidd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015