No themes applied yet
Ruth yn cyfarfod Boas
1Roedd gan Naomi berthynas i’w gŵr o’r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i’r un teulu ag Elimelech.
2Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i’r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.”2:2 i gasglu grawn … caniatâd i mi Adeg cynhaeaf roedd hi’n arferiad gadael peth grawn ar ôl yn y cae i bobl dlawd ei gasglu (gw. Lefiticus 19:10; 23:22).2:2 Lefiticus 19:9,10; Deuteronomium 24:19 “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi. 3Felly aeth Ruth i’r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi’n mynd i’r rhan o’r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech. 4A phwy fyddai’n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw’n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”
5Yna gofynnodd Boas i’r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae’r ferch acw’n perthyn?” 6“Hi ydy’r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw. 7“Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i’r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi’n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”
8Dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o’r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda’r merched sy’n gweithio i mi. 9Sylwa ble fyddan nhw’n gweithio, a’u dilyn nhw. Bydda i’n siarsio’r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A phan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o’r llestri fydd fy ngweision i wedi’u llenwi.”
10Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o’i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau’n dod o wlad arall?” 11“Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi’i wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a’r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti. 12Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi’n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wyt wedi dod i gysgodi dan ei adain.” 13Dwedodd Ruth, “Ti’n garedig iawn ata i, syr. Ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er nad ydw i’n un o’r merched sy’n gweithio i ti.”
14Pan oedd hi’n amser bwyta, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi’n eistedd gyda’r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi’i grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i’w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben.
15Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i’w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a pheidiwch â’i dwrdio hi. 16Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o’r ysgubau a’i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.” 17Felly buodd Ruth wrthi’n casglu grawn nes iddi nosi.
Ar ôl iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi’i gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd! 18Dyma hi’n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi’i gasglu. A dyma Ruth yn rhoi’r bwyd oedd dros ben ers amser cinio iddi hefyd. 19Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti’n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw’r dyn lle roeddwn i’n gweithio,” meddai.
20“Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy’n fyw a’r rhai sydd wedi marw. Mae’r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e’n un o’r rhai sy’n gyfrifol amdanon ni.”2:20 Lefiticus 25:25 21Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu’r cynhaeaf i gyd.’” 22A dyma Naomi yn dweud, “Ie, dyna’r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda’r merched sy’n gweithio iddo fe. Fel yna, fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.” 23Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas. Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a’r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi’n byw gyda’i mam-yng-nghyfraith.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015