No themes applied yet
Y cariad:
1Dw i’n dod i’m gardd, ferch annwyl, fy nghariad –
i gasglu fy myrr a’m perlysiau,
i flasu’r diliau a’r mêl,
ac i yfed y gwin a’r llaeth.
Y gwesteion:
Mwynhewch y wledd, gariadon!
Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
Y bedwaredd gerdd
Y ferch:
2Rôn i’n gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.
Ust! Llais fy nghariad; mae’n curo –
Y cariad:
“Agor i mi ddod i mewn, f’anwylyd,
fy nghariad, fy ngholomen berffaith.
Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,
a’m pen yn llaith gan niwl y nos.”
Y ferch:
3“Ond dw i’n noeth, heb ddim amdana i.
Ti am i mi wisgo eto, wyt ti?
A dw i wedi golchi fy nhraed.5:3 fy nhraed Gall fod ystyr dwbl yma, gyda ‘traed’ yn cael ei ddefnyddio fel mwythair am yr organau rhywiol. Mae’n sicr yn wir am y gair ‘llaw’ yn adn. 4.
Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”
4Yna gwthiodd ei law i agor y drws,5:4 i agor y drws Hebraeg, “drwy’r twll”.
a theimlais wefr yn mynd drwyddo i.
5Codais i’w adael i mewn;
roedd fy nwylo’n diferu o fyrr –
roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd
pan afaelais yn yr handlen.
6Agorais y drws i’m cariad,
ond roedd e wedi troi a mynd!
Suddodd fy nghalon o’m mewn pan aeth.
Chwiliais amdano, ond methu ei gael;
galwais arno, ond doedd dim ateb.
7Dyma’r gwylwyr nos yn fy ngweld
wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.
Dyma nhw’n fy nghuro a’m cam-drin
a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i –
y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau’r ddinas!
8Ferched Jerwsalem, gwrandwch –
os dewch chi o hyd i’m cariad,
dwedwch wrtho mod i’n glaf o gariad.
Y merched wrth y ferch:
9O’r harddaf o ferched,
beth sy’n gwneud dy gariad
yn well na dynion eraill?
Beth sy’n gwneud dy gariad
yn well na dynion eraill,
i ti grefu mor daer â hyn?
Y ferch:
10Mae nghariad yn ffit ac yn iach;
mae’n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.
11Mae ei wyneb a’i wedd fel aur pur,
a’i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.
12Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr,
yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.
13Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau,
a chusan ei wefusau fel y lili
yn diferu o fyrr.
14Mae ei freichiau cyhyrog fel aur
wedi’u haddurno â meini gwerthfawr;
a’i gorff lluniaidd fel ifori llyfn
wedi’i orchuddio â meini saffir.
15Mae ei goesau fel pileri o farmor
wedi’u gosod ar sylfaen o aur pur.
Mae e’n sefyll fel mynyddoedd Libanus
a’u coed cedrwydd urddasol.
16Mae ei gusan mor felys;
mae popeth amdano’n ddeniadol!
Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar,
ferched Jerwsalem.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015