No themes applied yet
1Agor dy giatiau, Libanus,
a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd.
2Bydd y coed pinwydd yn udo,
am fod y coed cedrwydd wedi syrthio –
mae’r coed mawreddog wedi’u difrodi.
Bydd coed derw Bashan yn udo,
am fod y goedwig drwchus wedi’i thorri i lawr.
3Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo –
am fod y borfa odidog wedi’i difetha!
Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo –
am fod coedwig yr Iorddonen wedi’i difa!
Y ddau fugail
4Dyma mae’r ARGLWYDD fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia’r praidd sydd i fynd i’r lladd-dy. 5Mae’r rhai sy’n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae’r rhai sy’n eu gwerthu yn diolch i’r ARGLWYDD am eu gwneud nhw’n gyfoethog. A dydy’r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw. 6Ac o hyn ymlaen, fydda i’n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydda i’n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny’n dod â dinistr i’r wlad, a fydda i’n achub neb o’u gafael.”
7Felly dyma fi’n bugeilio’r praidd oedd i fynd i’r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn ‘Haelioni’ a’r llall yn ‘Undod’. Yna es i fugeilio’r praidd 8a diswyddo’r tri bugail mewn un mis. Rôn i wedi colli pob amynedd gyda’r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith. 9Yna dyma fi’n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A’r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!”
10Yna dyma fi’n cymryd fy ffon ‘Haelioni’, a’i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi’i ganslo. 11Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr ARGLWYDD.
12Yna dyma fi’n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi’n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw’n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi.
13A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‘hael’ nhw i’r trysordy!” Dyna’r cwbl roedden nhw’n meddwl oeddwn i’n werth! Felly dyma fi’n rhoi’r arian i drysordy teml yr ARGLWYDD. 14Yna dyma fi’n cymryd y ffon arall, ‘Undod’, a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi dod i ben.
15A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim. 16Dw i’n rhoi arweinydd i’r wlad yma – bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy’n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu’r rhai sydd wedi’u hanafu, nac yn bwydo’r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd.
17Mae ar ben ar fy mugail diwerth
sy’n troi cefn ar y praidd!
Bydd cleddyf yn taro ei fraich
ac yn anafu ei lygad dde.
Bydd yn colli defnydd o’i fraich,
ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”11:17 Bydd cleddyf … ei lygad dde! Roedd y fraich dde yn symbol o gryfder a grym (gw. Eseia 51:9; Eseciel 30:21). Byddai milwr yn edrych heibio ei darian gyda’i lygad dde. Felly doedd dyn oedd yn ddall yn ei lygad dde yn dda i ddim fel milwr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015