No themes applied yet
1A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac â’r holl dywysogion. 2A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a bod hyn o’r Arglwydd ein Duw, danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pentrefol, i’w cynnull hwynt atom ni. 3A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul. 4A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl. 5Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriath-jearim. 6A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel, i Baala, sef Ciriath-jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn preswylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef. 7A hwy a ddygasant arch Duw ar fen newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahïo oedd yn gyrru y fen. 8A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, â’u holl nerth, ac â chaniadau, ac â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac â symbalau, ac ag utgyrn.
9A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi. 10Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw. 11A bu ddrwg gan Dafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres-ussa, hyd y dydd hwn. 12A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi? 13Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i cludodd hi i dŷ Obed-edom y Gethiad. 14Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed-edom, yn ei dŷ ef, dri mis. A’r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed-edom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.