No themes applied yet
1Felly y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw. 2Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw yr Arglwydd. 3Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chostrelaid o win.
4Ac efe a osododd gerbron arch yr Arglwydd weinidogion o’r Lefiaid, i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori Arglwydd Dduw Israel. 5Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed-edom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau. 6Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw.
7Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr Arglwydd, yn llaw Asaff a’i frodyr. 8Moliennwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd. 9Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau. 10Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr Arglwydd. 11Ceiswch yr Arglwydd a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol. 12Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau; 13Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef. 14Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. 15Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau; 16Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac: 17Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, 18Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. 19Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; 20A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill; 21Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd, 22Na chyffyrddwch â’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. 23Cenwch i’r Arglwydd yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. 24Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. 25Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau. 26Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. 27Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef. 28Moeswch i’r Arglwydd, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. 29Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i’r Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd. 30Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo. 31Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu. 32Rhued y môr a’i gyflawnder; llawenhaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo. 33Yna prennau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear. 34Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 35A dywedwch, Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant. 36Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr Arglwydd.
37Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd: 38Ac Obed-edom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obed-edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion: 39Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr Arglwydd, yn yr uchelfa oedd yn Gibeon, 40I offrymu poethoffrymau i’r Arglwydd ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd, yr hon a orchmynnodd efe i Israel: 41A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr Arglwydd, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd: 42A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, yn lleisio ag utgyrn, ac â symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth. 43A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.