No themes applied yet
1Dyma feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon, 2Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.
3Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf-anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd, ac efe a’i lladdodd ef. 4A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump. 5Meibion Phares; Hesron a Hamul. 6A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump. 7A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd-beth. 8A meibion Ethan; Asareia. 9A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai. 10A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda; 11A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas; 12A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;
13A Jesse a genhedlodd ei gyntaf-anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd, 14Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed, 15Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed: 16A’u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri. 17Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.
18A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon. 19A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur. 20A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.
21Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub. 22A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead. 23Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a’i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead. 24Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.
25A meibion Jerahmeel cyntaf-anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa. 26A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a’i henw Atara: hon oedd fam Onam. 27A meibion Ram cyntaf-anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer. 28A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur. 29Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid. 30A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi-blant. 31A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai. 32A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi-blant. 33A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.
34Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a’i enw Jarha. 35A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Attai. 36Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad. 37A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed, 38Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia, 39Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa, 40Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum, 41A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.
42Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd, Mesa ei gyntaf-anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron. 43A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema. 44A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai. 45A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur. 46Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases. 47A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff. 48Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana. 49Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.
50Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur, cyntaf-anedig Effrata; Sobal tad Ciriath-jearim, 51Salma tad Bethlehem, Hareff tad Beth-gader. 52A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath-jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid, 53A theuluoedd Ciriath-jearim oedd yr Ithriaid, a’r Puhiaid, a’r Sumathiaid, a’r Misraiaid: o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid. 54Meibion Salma; Bethlehem, a’r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid. 55A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethant o Hemath, tad tylwyth Rechab.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.