No themes applied yet
1A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu’r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywysogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a’i feibion, gyda’r ystafellyddion, a’r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem. 2A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a’m pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd, ac i ystôl draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu. 3Ond Duw a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist. 4Er hynny Arglwydd Dduw Israel a’m hetholodd i o holl dŷ fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel: 5Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd, ar Israel. 6Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad. 7A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a’m barnedigaethau i, megis y dydd hwn. 8Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr Arglwydd, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.
9A thithau Solomon fy mab, adnebydd Dduw dy dad, a gwasanaetha ef â chalon berffaith, ac â meddwl ewyllysgar: canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. 10Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr: ymgryfha, a gwna.
11Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa, 12A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr Arglwydd, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ Dduw, ac am drysorau y pethau cysegredig: 13Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 14Efe a roddes o aur wrth bwys, i’r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i’r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth: 15Sef pwys y canwyllbrenni aur, a’u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyllbren ac i’w lampau: ac i’r canwyllbrennau arian wrth bwys, i’r canhwyllbren ac i’w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren. 16Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i’r byrddau arian; 17Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r ffiolau, ac i’r dysglau, ac i’r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch; 18Ac i allor yr arogl-darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd. 19Hyn oll, ebe Dafydd, a wnaeth yr Arglwydd i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portreiad hwn. 20A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac nac arswyda: canys yr Arglwydd Dduw, fy Nuw i, fydd gyda thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd. 21Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ Dduw, a chyda thi y maent yn yr holl waith, a phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.