No themes applied yet
1Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a’u myned oll trwy y môr; 2A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; 3A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol; 4Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist. 5Eithr ni bu Dduw fodlon i’r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. 6A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy. 7Ac na fyddwch eilun-addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. 8Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. 9Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan seirff. 10Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a’u distrywiwyd gan y dinistrydd. 11A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. 12Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. 14Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilun-addoliaeth. 15Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd. 16Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw? 17Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara. 18Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw’r rhai sydd yn bwyta’r ebyrth, yn gyfranogion o’r allor? 19Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim? 20Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid. 21Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid. 22Ai gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef? 23Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall. 25Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod: 26Canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 27Os bydd i neb o’r rhai di-gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. 28Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 29Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano? 31Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 32Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: 33Megis yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.