No themes applied yet
1Byddwch ddilynwyr i mi, megis yr wyf finnau i Grist. 2Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi. 3Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Crist; a phen y wraig yw’r gŵr; a phen Crist yw Duw. 4Pob gŵr yn gweddïo neu yn proffwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben. 5Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen: canys yr un yw â phe byddai wedi ei heillio. 6Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged. 7Canys gŵr yn wir ni ddylai wisgo am ei ben, am ei fod yn ddelw a gogoniant Duw: a’r wraig yw gogoniant y gŵr. 8Canys nid yw’r gŵr o’r wraig, ond y wraig o’r gŵr. 9Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig; eithr y wraig er mwyn y gŵr. 10Am hynny y dylai’r wraig fod ganddi awdurdod ar ei phen, oherwydd yr angylion. 11Er hynny nid yw na’r gŵr heb y wraig, na’r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd. 12Canys yr un wedd ag y mae’r wraig o’r gŵr, felly y mae’r gŵr trwy’r wraig: a phob peth sydd o Dduw. 13Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddïo Duw yn bennoeth? 14Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os gwalltlaes a fydd gŵr, mai amarch yw iddo? 15Eithr os gwraig a fydd gwalltlaes, clod yw iddi: oblegid ei llaeswallt a ddodwyd yn orchudd iddi. 16Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw. 17Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu. 19Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi. 20Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn. 21Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw. 22Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol. 23Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara: 24Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 25Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf. 26Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo. 27Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. 28Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan. 29Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd. 30Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. 31Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid. 32Eithr pan y’n bernir, y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd. 33Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd. 34Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.