No themes applied yet
1Hefyd am y gasgl i’r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. 2Y dydd cyntaf o’r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi. 3A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem. 4Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi. 5Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.) 6Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf. 7Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada’r Arglwydd. 8Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn. 9Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. 10Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi-ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau. 11Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr. 12Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas. 13Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch. 14Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad. 15Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,) 16Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio. 17Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant; 18Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. 19Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych. 20Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol. 21Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. 22Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha. 23Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi. 24Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.
Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.