No themes applied yet
1Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad. 2Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon. 3Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly, 4Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist, 5Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu. 6Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? 7Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni: 8Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd. 9Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr: 10Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeilwyr, neu ag eilun-addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd. 11Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun-addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith. 12Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? 13Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.