No themes applied yet
1Onid wyf fi yn apostol? onid wyf fi yn rhydd? oni welais i Iesu Grist ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? 2Onid wyf yn apostol i eraill, eto yr wyf i chwi: canys sêl fy apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd. 3Fy amddiffyn i, i’r rhai a’m holant, yw hwn; 4Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed? 5Onid oes i ni awdurdod i arwain o amgylch wraig a fyddai chwaer, megis ag y mae i’r apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Ceffas? 6Ai myfi yn unig a Barnabas, nid oes gennym awdurdod i fod heb weithio? 7Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd? 8Ai yn ôl dyn yr wyf fi yn dywedyd y pethau hyn? neu onid yw’r ddeddf hefyd yn dywedyd hyn? 9Canys ysgrifenedig yw yn neddf Moses, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu. Ai dros ychen y mae Duw yn gofalu? 10Ynteu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, mai mewn gobaith y dylai’r arddwr aredig, a’r dyrnwr mewn gobaith, i fod yn gyfrannog o’i obaith. 11Os nyni a heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol? 12Os yw eraill yn gyfranogion o’r awdurdod hon arnoch, onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist. 13Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn gwneuthur pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? a’r rhai sydd yn gwasanaethu yr allor, yn gyd-gyfranogion o’r allor? 14Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, i’r rhai sydd yn pregethu’r efengyl, fyw wrth yr efengyl. 15Eithr myfi nid arferais yr un o’r pethau hyn: ac nid ysgrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi: canys gwell yw imi farw, na gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer. 16Canys os pregethaf yr efengyl, nid oes orfoledd i mi: canys anghenraid a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl. 17Canys os gwnaf hyn o’m bodd, y mae i mi wobr: ond os o’m hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl. 18Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi, pan efengylwyf, osod efengyl Crist yn rhad, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl. 19Canys er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy. 20Ac mi a ymwneuthum i’r Iddewon megis yn Iddew, fel yr enillwn yr Iddewon; i’r rhai dan y ddeddf, megis dan y ddeddf, fel yr enillwn y rhai sydd dan y ddeddf; 21I’r rhai di-ddeddf, megis di-ddeddf, (a minnau heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, ond dan y ddeddf i Grist,) fel yr enillwn y rhai di-ddeddf. 22Ymwneuthum i’r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ymwneuthum yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai. 23A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr efengyl, fel y’m gwneler yn gyd-gyfrannog ohoni. 24Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel y caffoch afael. 25Ac y mae pob un a’r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth: a hwynt-hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig. 26Yr wyf fi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo’r awyr: 27Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.