No themes applied yet
1Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: 2Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd. 3Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. 4Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. 5Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. 6Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef. 7Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad. 8Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu. 9Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. 10Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo. 11Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef. 12Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, blant bychain, oblegid maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef. 13Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, wŷr ieuainc, am orchfygu ohonoch yr un drwg. Ysgrifennu yr wyf atoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tad. 14Ysgrifennais atoch chwi, dadau, am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad. Ysgrifennais atoch chwi, wŷr ieuainc, am eich bod yn gryfion, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu ohonoch yr un drwg. 15Na cherwch y byd, na’r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef. 16Canys pob peth a’r sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae. 17A’r byd sydd yn myned heibio, a’i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd. 18O blant bychain, yr awr ddiwethaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw anghrist, yr awron hefyd y mae anghristiau lawer; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw. 19Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni: canys pe buasent ohonom ni, hwy a arosasent gyda ni: eithr hyn a fu, fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni. 20Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth. 21Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wybod, ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd. 22Pwy yw’r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist? Efe yw’r anghrist, yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab. 23Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab, nid oes ganddo’r Tad chwaith: (ond) yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab, y mae’r Tad ganddo hefyd. 24Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o’r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad. 25A hon yw’r addewid a addawodd efe i ni, sef bywyd tragwyddol. 26Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo. 27Ond y mae’r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y’ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo. 28Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo; fel, pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad. 29Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni ohono ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.