No themes applied yet
1A’r brenin Dafydd oedd hen, ac a aethai mewn oedran; er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad, eto ni chynhesai efe. 2Am hynny ei weision a ddywedasant wrtho, Ceisier i’m harglwydd frenin lances o forwyn; a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo, a gorwedded yn dy fynwes, fel y gwresogo fy arglwydd frenin. 3A hwy a geisiasant lances deg trwy holl fro Israel; ac a gawsant Abisag y Sunamees, ac a’i dygasant hi at y brenin. 4A’r llances oedd deg iawn, ac oedd yn ymgeleddu’r brenin, ac yn ei wasanaethu ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth â hi.
5Ac Adoneia mab Haggith a ymddyrchafodd, gan ddywedyd, Myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwŷr meirch, a dengwr a deugain i redeg o’i flaen. 6A’i dad nid anfodlonasai ef yn ei ddyddiau, gan ddywedyd, Paham y gwnaethost fel hyn? yntau hefyd oedd deg iawn o bryd; ac efe a anesid wedi Absalom. 7Ac o’i gyfrinach y gwnaeth efe Joab mab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad: a hwy a gynorthwyasant ar ôl Adoneia. 8Ond Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a Nathan y proffwyd, a Simei, a Rei, a’r gwŷr cedyrn a fuasai gyda Dafydd, nid oeddynt gydag Adoneia. 9Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin. 10Ond Nathan y proffwyd, a Benaia, a’r gwŷr cedyrn, a Solomon ei frawd, ni wahoddodd efe.
11Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Solomon, gan ddywedyd, Oni chlywaist ti fod Adoneia mab Haggith yn teyrnasu, a’n harglwydd Dafydd heb wybod hynny? 12Tyred gan hynny yn awr, atolwg, rhoddaf i ti gyngor, fel yr achubych dy einioes dy hun, ac einioes Solomon dy fab. 13Dos, a cherdda i mewn at y brenin Dafydd, a dywed wrtho, Oni thyngaist ti, fy arglwydd frenin, wrth dy wasanaethwraig, gan ddywedyd, Solomon dy fab di a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i? paham gan hynny y mae Adoneia yn teyrnasu? 14Wele, tra fyddych yno eto yn llefaru wrth y brenin, minnau a ddeuaf i mewn ar dy ôl di, ac a sicrhaf dy eiriau di.
15A Bathseba a aeth i mewn at y brenin, i’r ystafell. A’r brenin oedd hen iawn; ac Abisag y Sunamees oedd yn gwasanaethu’r brenin. 16A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di? 17Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i’r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i: 18Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn. 19Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe. 20Tithau, fy arglwydd frenin, y mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef. 21Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyda’i dadau, yna y cyfrifir fi a’m mab Solomon yn bechaduriaid.
22Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â’r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn. 23A hwy a fynegasant i’r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i’r brenin â’i wyneb hyd lawr. 24A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc? 25Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o’i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia. 26Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a’th was Solomon, ni wahoddodd efe. 27Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i’th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?
28A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin. 29A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder, 30Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn. 31Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
32A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin. 33A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi’a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun, a dygwch ef i waered i Gihon. 34Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, a dywedwch, Bydded fyw y brenin Solomon. 35Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i; ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda. 36A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen: yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin. 37Megis y bu yr Arglwydd gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd. 38Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon. 39A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon. 40A’r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
41A chlybu Adoneia, a’i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol? 42Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di. 43A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin. 44A’r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin. 45A Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a’i heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: a hwy a ddaethant i fyny oddi yno yn llawen; a’r ddinas a derfysgodd. Dyna’r twrf a glywsoch chwi. 46Ac y mae Solomon yn eistedd ar orseddfainc y frenhiniaeth. 47A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio ein harglwydd frenin Dafydd, gan ddywedyd, Dy Dduw a wnelo enw Solomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orseddfainc ef na’th orseddfainc di. A’r brenin a ymgrymodd ar y gwely. 48Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddiw un i eistedd ar fy ngorseddfainc, a’m llygaid innau yn gweled hynny. 49A’r holl wahoddedigion, y rhai oedd gydag Adoneia, a ddychrynasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob un ei ffordd.
50Ac Adoneia oedd yn ofni rhag Solomon; ac a gyfododd, ac a aeth ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor. 51A mynegwyd i Solomon, gan ddywedyd, Wele, y mae Adoneia yn ofni’r brenin Solomon: canys wele, efe a ymaflodd yng nghyrn yr allor, gan ddywedyd, Tynged y brenin Solomon i mi heddiw, na ladd efe ei was â’r cleddyf. 52A dywedodd Solomon, Os bydd efe yn ŵr da, ni syrth un o’i wallt ef i lawr; ond os ceir drygioni ynddo ef, efe a fydd marw. 53A’r brenin Solomon a anfonodd, a hwy a’i dygasant ef oddi wrth yr allor. Ac efe a ddaeth, ac a ymgrymodd i’r brenin Solomon. A dywedodd Solomon wrtho, Dos i’th dŷ.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.