No themes applied yet
1A digwyddodd ar ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad, yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. 2Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian. 3A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, Na ato yr Arglwydd i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. 4Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara.
5Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? 6Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. 7A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. 8Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd â’i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth. 9A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. 10Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist Dduw a’r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. 11A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. 12Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. 13A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd Dduw a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. 14Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.
15A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. 16A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.
17A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, 18Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. 19A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd. 20A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 21Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: 22A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa, oherwydd y dicter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. 23Am Jesebel hefyd y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel. 24Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd.
25Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr Arglwydd: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. 26Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. 27A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf. 28A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, 29Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.