No themes applied yet
1Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynullasant yn Socho, yr hon sydd yn Jwda, ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca, yng nghwr Dammim. 2Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant yn nyffryn Ela, ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid. 3A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du, ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall: a dyffryn oedd rhyngddynt.
4A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid, a’i enw Goleiath, o Gath: ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant. 5A helm o bres ar ei ben, a llurig emog a wisgai: a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres. 6A botasau pres oedd am ei draed ef, a tharian bres rhwng ei ysgwyddau. 7A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn: ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef. 8Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi. 9Os gall efe ymladd â mi, a’m lladd i; yna y byddwn ni yn weision i chwi: ond os myfi a’i gorchfygaf ef, ac a’i lladdaf ef; yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni. 10A’r Philistiad a ddywedodd, Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn: moeswch ataf fi ŵr, fel yr ymladdom ynghyd. 11Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad, yna y digalonasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.
12A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a’i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a’r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr. 13A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd. 14A Dafydd oedd ieuangaf: a’r tri hynaf a aeth ar ôl Saul. 15Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul, i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem. 16A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr, ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod. 17A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab, Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn, a’r deg torth hyn, ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr. 18Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil, ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach, a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt. 19Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel, oeddynt yn nyffryn Ela, yn ymladd â’r Philistiaid.
20A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef; ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gad, ac yn bloeddio i’r frwydr. 21Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasant, fyddin yn erbyn byddin. 22A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i’r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i’w frodyr. 23A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd. 24A holl wŷr Israel, pan welsant y gŵr hwnnw, a ffoesant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr. 25A dywedodd gwŷr Israel, Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny: a’r gŵr a’i lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel. 26A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw? 27A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd. Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef.
28Ac Eliab, ei frawd hynaf, a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered. 29A dywedodd Dafydd, Beth a wneuthum i yn awr? Onid oes achos?
30Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall, ac a ddywedodd yr un modd: a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen. 31A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul: ac efe a anfonodd amdano ef.
32A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef: dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn. 33A dywedodd Saul wrth Dafydd, Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn, i ymladd ag ef: canys llanc ydwyt ti, ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd. 34A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad; a daeth llew ac arth, ac a gymerasant oen o’r praidd. 35A mi a euthum ar ei ôl ef, ac a’i trewais ef, ac a’i hachubais o’i safn ef: a phan gyfododd efe i’m herbyn i, mi a ymeflais yn ei farf ef, ac a’i trewais, ac a’i lleddais ef. 36Felly dy was di a laddodd y llew, a’r arth: a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt, gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw. 37Dywedodd Dafydd hefyd, Yr Arglwydd, yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a’r Arglwydd fyddo gyda thi.
38A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun, ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef, ac a’i gwisgodd ef mewn llurig. 39A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau, ac a geisiodd gerdded; am na phrofasai efe. A dywedodd Dafydd wrth Saul, Ni allaf gerdded yn y rhai hyn: canys ni phrofais i. A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano. 40Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad. 41A’r Philistiad a gerddodd, gan fyned a nesáu at Dafydd; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef. 42A phan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, efe a’i diystyrodd ef; canys llanc oedd efe, a gwritgoch, a theg yr olwg. 43A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd, Ai ci ydwyf fi, gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef. 44Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd, Tyred ataf fi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes. 45Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf, ac â gwaywffon, ac â tharian; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel, yr hwn a geblaist ti. 46Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel. 47A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod, nad â chleddyf, nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel, ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni. 48A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd; yna y brysiodd Dafydd, ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad. 49A Dafydd a estynnodd ei law i’r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb. 50Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg, ac a drawodd y Philistiad, ac a’i lladdodd ef; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd. 51Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a’i tynnodd o’r wain, ac a’i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant. 52A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant, ac a floeddiasant; ac a erlidiasant y Philistiaid, hyd y ffordd y delych i’r dyffryn, a hyd byrth Ecron. A’r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim, sef hyd Gath, a hyd Ecron. 53A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid, ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt. 54A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad, ac a’i dug i Jerwsalem; a’i arfau ef a osododd efe yn ei babell.
55A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i. 56A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn. 57A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law. 58A Saul a ddywedodd wrtho ef, Mab i bwy wyt ti, y gŵr ieuanc? A dywedodd Dafydd, Mab i’th was Jesse y Bethlehemiad.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.