No themes applied yet
1A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd. 2Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia: 3A mi a af allan, ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo, a mi a ymddiddanaf â’m tad o’th blegid di; a’r hyn a welwyf, mi a’i mynegaf i ti.
4A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Na pheched y brenin yn erbyn ei was, yn erbyn Dafydd: oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di, ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti. 5Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel: ti a’i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos? 6A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan; a Saul a dyngodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni leddir ef. 7A Jonathan a alwodd ar Dafydd; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn. A Jonathan a ddug Dafydd at Saul: ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt. 8A bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr; a hwy a ffoesant rhagddo ef. 9A’r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul, pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â’i waywffon yn ei law: a Dafydd oedd yn canu â’i law. 10A cheisiodd Saul daro â’i waywffon trwy Dafydd, yn y pared: ond efe a giliodd o ŵydd Saul; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared. A Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd y nos honno. 11Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i’w wylied ef, ac i’w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y’th leddir.
12Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr: ac efe a aeth, ac a ffodd, ac a ddihangodd. 13A Michal a gymerodd ddelw, ac a’i gosododd yn y gwely; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi, ac a’i gorchuddiodd â dillad. 14A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd, hi a ddywedodd, Y mae efe yn glaf. 15A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd, Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely, fel y lladdwyf ef. 16A phan ddaeth y cenhadau, wele y ddelw ar y gwely, a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi. 17A dywedodd Saul wrth Michal, Paham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc? A Michal a ddywedodd wrth Saul, Efe a ddywedodd wrthyf, Gollwng fi; onid e, mi a’th laddaf di.
18Felly Dafydd a ffodd, ac a ddihangodd, ac a ddaeth at Samuel i Rama; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef. Ac efe a aeth at Samuel, a hwy a drigasant yn Naioth. 19A mynegwyd i Saul, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama. 20A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd. A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo, a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy, yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw, fel y proffwydasant hwythau hefyd. 21A phan fynegwyd hyn i Saul, efe a anfonodd genhadau eraill; a hwythau hefyd a broffwydasant. A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith; a phroffwydasant hwythau hefyd. 22Yna yntau hefyd a aeth i Rama; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu: ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Samuel a Dafydd? Ac un a ddywedodd, Wele, y maent yn Naioth o fewn Rama. 23Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama. Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Rama. 24Ac efe a ddiosgodd ei ddillad, ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl nos. Am hynny y dywedent, A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi?
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.