No themes applied yet
1A daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec. 2A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.
3A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion. 4Felly y bobl a anfonodd i Seilo, ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid: ac yno yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees, gydag arch cyfamod Duw. 5A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i’r gwersyll, holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr, fel y datseiniodd y ddaear. 6A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd, hwy a ddywedasant, Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i’r gwersyll. 7A’r Philistiaid a ofnasant: oherwydd hwy a ddywedasant, Daeth Duw i’r gwersyll. Dywedasant hefyd, Gwae ni! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn. 8Gwae ni! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â’r holl blâu yn yr anialwch. 9Ymgryfhewch, a byddwch wŷr, O Philistiaid; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid, fel y gwasanaethasant hwy chwi: byddwch wŷr, ac ymleddwch.
10A’r Philistiaid a ymladdasant; a lladdwyd Israel, a ffodd pawb i’w babell: a bu lladdfa fawr iawn; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed. 11Ac arch Duw a ddaliwyd; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, a fuant feirw.
12A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin, ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw, â’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben. 13A phan ddaeth efe, wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd, yn disgwyl: canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw. A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas, a mynegi hyn, yr holl ddinas a waeddodd. 14A phan glywodd Eli lais y waedd, efe a ddywedodd, Beth yw llais y cynnwrf yma? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys, ac a fynegodd i Eli. 15Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain; a phallasai ei lygaid ef, fel na allai efe weled. 16A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli, Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin, myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin. A dywedodd yntau, Pa beth a ddigwyddodd, fy mab? 17A’r gennad a atebodd, ac a ddywedodd, Israel a ffodd o flaen y Philistiaid; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl; a’th ddau fab hefyd, Hoffni a Phinees, a fuant feirw, ac arch Duw a ddaliwyd. 18A phan grybwyllodd efe am arch Duw, yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth; a’i wddf a dorrodd, ac efe a fu farw: canys y gŵr oedd hen a thrwm. Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd.
19A’i waudd ef, gwraig Phinees, oedd feichiog, yn agos i esgor: a phan glybu sôn ddarfod dal arch Duw, a marw o’i chwegrwn a’i gŵr, hi a ymgrymodd, ac a glafychodd: canys ei gwewyr a ddaeth arni. 20Ac ynghylch y pryd y bu hi farw, y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi, Nac ofna; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi, ac nid ystyriodd. 21A hi a alwodd y bachgen Ichabod; gan ddywedyd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; (am ddal arch Duw, ac am ei chwegrwn a’i gŵr.) 22A hi a ddywedodd, Y gogoniant a ymadawodd o Israel; canys arch Duw a ddaliwyd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.