No themes applied yet
1Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; 2Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; 3Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni. 4Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. 5Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer. 6Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; 7Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi. 8Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. 9Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni, 10Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi? 11A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi. 12A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi: 13I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.