No themes applied yet
1Eithr am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch. 2Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hysbys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd fel lleidr yn y nos. 3Canys pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch; yna y mae dinistr disymwth yn dyfod ar eu gwarthaf, megis gwewyr esgor ar un a fo beichiog; ac ni ddihangant hwy ddim. 4Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo’r dydd hwnnw chwi megis lleidr. 5Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o’r nos, nac o’r tywyllwch. 6Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr. 7Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai a feddwant, y nos y meddwant. 8Eithr nyni, gan ein bod o’r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm. 9Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist, 10Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef. 11Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur. 12Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; 13A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. 14Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. 15Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. 16Byddwch lawen yn wastadol. 17Gweddïwch yn ddi-baid. 18Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi. 19Na ddiffoddwch yr Ysbryd. 20Na ddirmygwch broffwydoliaethau. 21Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. 22Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. 23A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. 24Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna. 25O frodyr, gweddïwch drosom. 26Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol. 27Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd. 28Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.
Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.