No themes applied yet
1Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid; 2Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth; 3Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i’w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd. 4Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i’w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch. 5Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi. 6Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist. 7Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb. 8Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron, ac o’r hwn a fydd. 9Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad. 10Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid. 11Y pethau hyn gorchymyn a dysg. 12Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb. 13Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. 14Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth, gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth. 15Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. 16Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.