No themes applied yet
1Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Jeroboam y dechreuodd Abeia deyrnasu ar Jwda. 2Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Michaia, merch Uriel o Gibea. Ac yr oedd rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam. 3Ac Abeia a gydiodd y rhyfel â llu o ryfelwyr grymus, sef pedwar can mil o wŷr etholedig: a Jeroboam a luniaethodd y rhyfel yn ei erbyn ef ag wyth gan mil o wŷr etholedig, grymus, nerthol.
4Ac Abeia a gyfododd ar fynydd Semaraim, yr hwn sydd ym mynydd Effraim, ac a ddywedodd, O Jeroboam, a holl Israel, gwrandewch fi; 5Oni ddylech chwi wybod roddi o Arglwydd Dduw Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen? 6Eto Jeroboam mab Nebat, gwas Solomon mab Dafydd, a gyfododd ac a wrthryfelodd yn erbyn ei arglwydd. 7Ac ofer ddynion, sef meibion y fall, a ymgasglasant ato ef, ac a ymgadarnhasant yn erbyn Rehoboam mab Solomon, pan oedd Rehoboam yn fachgen, ac yn wan ei galon, ac ni allai ymgadarnhau i’w herbyn hwynt. 8Ac yn awr yr ydych yn meddwl ymgadarnhau yn erbyn brenhiniaeth yr Arglwydd, yr hon sydd yn llaw meibion Dafydd; ac yr ydych yn dyrfa fawr, a chyda chwi y mae y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi. 9Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd, meibion Aaron, a’r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i’w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i’r rhai nid ydynt dduwiau. 10Ninnau, yr Arglwydd yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron, a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl. 11Ac y maent hwy yn llosgi i’r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a’r canhwyllbren aur a’i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw; ond chwi a’i gwrthodasoch ef. 12Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.
13Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o’u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a’r cynllwyn o’r tu ôl iddynt. 14A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, a’r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn. 15A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda. 16A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a’u rhoddodd hwynt i’w llaw hwynt. 17Ac Abeia a’i bobl a’u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig. 18Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau. 19Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a’i phentrefi, a Jesana a’i phentrefi, ac Effraim a’i phentrefi. 20Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr Arglwydd a’i trawodd ef, fel y bu efe farw.
21Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched. 22A’r rhan arall o hanes Abeia, a’i ffyrdd ef, a’i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.