No themes applied yet
1A thrigolion Jerwsalem a urddasant Ahaseia ei fab ieuangaf ef yn frenin yn ei le ef: canys y fyddin a ddaethai gyda’r Arabiaid i’r gwersyll, a laddasai y rhai hynaf oll. Felly Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a deyrnasodd. 2Mab dwy flwydd a deugain oedd Ahaseia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia merch Omri. 3Yntau hefyd a rodiodd yn ffyrdd tŷ Ahab: canys ei fam oedd ei gyngor ef i wneuthur drwg. 4Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys hwynt-hwy oedd gynghoriaid iddo ef, ar ôl marwolaeth ei dad, i’w ddinistr ef.
5Ac efe a rodiodd yn ôl eu cyngor hwynt, ac a aeth gyda Jehoram mab Ahab brenin Israel i ryfel, yn erbyn Hasael brenin Syria, yn Ramoth-gilead: a’r Syriaid a drawsant Joram. 6Ac efe a ddychwelodd i ymiacháu i Jesreel, oherwydd yr archollion â’r rhai y trawsant ef yn Rama, pan ymladdodd efe â Hasael brenin Syria. Ac Asareia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Jehoram mab Ahab i Jesreel, canys claf oedd efe. 7A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth Dduw, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr Arglwydd i dorri ymaith dŷ Ahab. 8A phan farnodd Jehu yn erbyn tŷ Ahab, efe a gafodd dywysogion Jwda, a meibion brodyr Ahaseia, y rhai oedd yn gwasanaethu Ahaseia, ac efe a’u lladdodd hwynt. 9Ac efe a geisiodd Ahaseia; a hwy a’i daliasant ef, (canys yr oedd efe yn llechu yn Samaria;) a hwy a’i dygasant ef at Jehu: lladdasant ef hefyd, a chladdasant ef; canys dywedasant, Mab Jehosaffat yw efe, yr hwn a geisiodd yr Arglwydd â’i holl galon. Felly nid oedd gan dŷ Ahaseia nerth i lynu yn y deyrnas.
10Ond pan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o’i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd holl frenhinol had tŷ Jwda. 11Ond Josabea merch y brenin a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a’i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd, ac a’i rhoddodd ef a’i famaeth yn ystafell y gwelyau. Felly Josabea merch y brenin Jehoram, gwraig Jehoiada yr offeiriad, (canys chwaer Ahaseia ydoedd hi,) a’i cuddiodd ef rhag Athaleia, fel na laddodd hi ef. 12Ac efe a fu yng nghudd gyda hwynt yn nhŷ Dduw chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.