No themes applied yet
1Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. 2A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad. 3A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.
4Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd. 5Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid. 6A’r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr Arglwydd, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth? 7Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim. 8Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a’i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan. 9A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i’r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch. 10A’r holl dywysogion a’r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i’r gist, nes gorffen ohonynt. 11A bu, yr amser y ducpwyd y gist at swyddog y brenin trwy law y Lefiaid, a phan welsant fod llawer o arian, ddyfod o ysgrifennydd y brenin, a swyddog yr archoffeiriad, a thywallt y gist, a’i chymryd hi, a’i dwyn drachefn i’w lle ei hun. Felly y gwnaethant o ddydd i ddydd, a chasglasant arian lawer. 12A’r brenin a Jehoiada a’i rhoddodd i’r rhai oedd yn gweithio gwasanaeth tŷ yr Arglwydd; a chyflogasant seiri maen, a seiri pren, i gyweirio tŷ yr Arglwydd; a gofaint haearn a phres, i gadarnhau tŷ yr Arglwydd. 13Felly y gweithwyr a weithiasant, a’r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a’i cadarnhasant ef. 14A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.
15Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw. 16A hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a’i dŷ. 17Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i’r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy. 18A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a’r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn. 19Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i’w troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy. 20Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntau a’ch gwrthyd chwithau. 21A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a’i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd. 22Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr Arglwydd, a gofynned.
23Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus. 24Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a’r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas. 25A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a’i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i’w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a’i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a’i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd. 26A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.
27Am ei feibion ef, a maint y baich a roddwyd arno, a sylfaeniad tŷ Dduw, wele hwy yn ysgrifenedig yn histori llyfr y brenhinoedd. Ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.