No themes applied yet
1Wedi y pethau hyn, a’u sicrhau, y daeth Senacherib brenin Asyria, ac a ddaeth i mewn i Jwda; ac a wersyllodd yn erbyn y dinasoedd caerog, ac a feddyliodd eu hennill hwynt iddo ei hun. 2A phan welodd Heseceia ddyfod Senacherib, a bod ei wyneb ef i ryfela yn erbyn Jerwsalem, 3Efe a ymgynghorodd â’i dywysogion, ac â’i gedyrn, am argae dyfroedd y ffynhonnau, y rhai oedd allan o’r ddinas. A hwy a’i cynorthwyasant ef. 4Felly pobl lawer a ymgasglasant, ac a argaeasant yr holl ffynhonnau, a’r afon sydd yn rhedeg trwy ganol y wlad, gan ddywedyd, Paham y daw brenhinoedd Asyria, ac y cânt ddyfroedd lawer? 5Ac efe a ymgryfhaodd, ac a adeiladodd yr holl fur drylliedig, ac a’i cyfododd i fyny hyd y tyrau, a mur arall oddi allan, ac a gadarnhaodd Milo yn ninas Dafydd, ac a wnaeth lawer o bicellau ac o darianau. 6Ac efe a osododd dywysogion rhyfel ar y bobl, ac a’u casglodd hwynt ato i heol porth y ddinas, ac a lefarodd wrth fodd eu calon hwynt, gan ddywedyd, 7Ymwrolwch, ac ymgadarnhewch; nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag brenin Asyria, na rhag yr holl dyrfa sydd gydag ef: canys y mae gyda ni fwy na chydag ef. 8Gydag ef y mae braich cnawdol; ond yr Arglwydd ein Duw sydd gyda ni, i’n cynorthwyo, ac i ryfela ein rhyfeloedd. A’r bobl a hyderasant ar eiriau Heseceia brenin Jwda.
9Wedi hyn yr anfonodd Senacherib brenin Asyria ei weision i Jerwsalem, (ond yr ydoedd efe ei hun yn rhyfela yn erbyn Lachis, a’i holl allu gydag ef,) at Heseceia brenin Jwda, ac at holl Jwda, y rhai oedd yn Jerwsalem, gan ddywedyd, 10Fel hyn y dywedodd Senacherib brenin Asyria, Ar ba beth yr ydych chwi yn hyderu, chwi y rhai sydd yn aros yng ngwarchae o fewn Jerwsalem? 11Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i’ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr Arglwydd ein Duw a’n gwared ni o law brenin Asyria. 12Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef, a’i allorau, ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem, gan ddywedyd, O flaen un allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch? 13Oni wyddoch chwi beth a wneuthum, mi a’m tadau, i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o’m llaw i? 14Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn, y rhai a ddarfu i’m tadau eu difetha, a allai waredu ei bobl o’m llaw i, fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o’m llaw i? 15Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef: canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o’m llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o’m llaw i? 16A’i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw, ac yn erbyn Heseceia ei was ef. 17Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu Arglwydd Dduw Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o’m llaw i, felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o’m llaw i. 18Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur, i’w hofni hwynt, ac i’w brawychu; fel yr enillent hwy y ddinas. 19A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn. 20Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i’r nefoedd.
21A’r Arglwydd a anfonodd angel, yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yng ngwersyll brenin Asyria. Felly efe a ddychwelodd â chywilydd ar ei wyneb i’w wlad ei hun. A phan ddaeth efe i dŷ ei dduw, y rhai a ddaethant allan o’i ymysgaroedd ei hun a’i lladdasant ef yno â’r cleddyf. 22Felly y gwaredodd yr Arglwydd Heseceia a thrigolion Jerwsalem o law Senacherib brenin Asyria, ac o law pawb eraill, ac a’u cadwodd hwynt oddi amgylch. 23A llawer a ddygasant roddion i’r Arglwydd i Jerwsalem, a phethau gwerthfawr i Heseceia brenin Jwda; fel y dyrchafwyd ef o hynny allan yng ngŵydd yr holl genhedloedd.
24Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr Arglwydd: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo. 25Ond ni thalodd Heseceia drachefn yn ôl yr hyn a roddasid iddo; canys ei galon ef a ddyrchafodd: a digofaint a ddaeth arno ef, ac ar Jwda a Jerwsalem. 26Er hynny Heseceia a ymostyngodd oherwydd dyrchafiad ei galon, efe a thrigolion Jerwsalem; ac ni ddaeth digofaint yr Arglwydd arnynt yn nyddiau Heseceia.
27Ac yr oedd gan Heseceia gyfoeth ac anrhydedd mawr iawn: ac efe a wnaeth iddo drysorau o arian, ac o aur, ac o feini gwerthfawr, o beraroglau hefyd, ac o darianau, ac o bob llestri hyfryd; 28A selerau i gnwd yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a phresebau i bob math ar anifail, a chorlannau i’r diadellau. 29Ac efe a wnaeth iddo ddinasoedd, a chyfoeth o ddefaid a gwartheg lawer: canys Duw a roddasai iddo ef gyfoeth mawr iawn. 30A’r Heseceia yma a argaeodd yr aber uchaf i ddyfroedd Gihon, ac a’u dug hwynt yn union oddi tanodd, tua thu y gorllewin i ddinas Dafydd. A ffynnodd Heseceia yn ei holl waith.
31Eto yn neges cenhadau tywysogion Babilon, y rhai a anfonwyd ato ef i ymofyn am y rhyfeddod a wnaethid yn y wlad, Duw a’i gadawodd ef, i’w brofi ef, i wybod y cwbl ag oedd yn ei galon.
32A’r rhan arall o hanes Heseceia, a’i garedigrwydd ef, wele hwy yn ysgrifenedig yng ngweledigaeth Eseia y proffwyd mab Amos, ac yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 33A Heseceia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn yr uchaf o feddau meibion Dafydd. A holl Jwda a thrigolion Jerwsalem a wnaethant anrhydedd iddo ef wrth ei farwolaeth. A Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.