No themes applied yet
1Ac ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr Arglwydd, a’i dŷ ei hun, 2Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno. 3A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a’i gorchfygodd hi. 4Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath. 5Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau; 6Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinasoedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.
7Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel; 8Ond o’u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Solomon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn. 9Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef. 10A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y bobl.
11A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr Arglwydd ddyfod i mewn iddo.
12Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth; 13I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.
14Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw. 15Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau. 16A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr Arglwydd, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr Arglwydd.
17Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom. 18A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a’u dygasant i’r brenin Solomon.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.