No themes applied yet
1Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Peca mab Remaleia y dechreuodd Ahas mab Jotham brenin Jwda deyrnasu. 2Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, fel Dafydd ei dad: 3Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. 4Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.
5Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef. 6Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a’r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn. 7Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglath-pileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i. 8Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria. 9A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a’i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.
10A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad. 11Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus. 12A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a’r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi. 13Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a’i fwyd-offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod-offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor. 14A’r allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd, ac a’i rhoddes hi o du gogledd yr allor. 15A’r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a’r bwyd-offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a’i fwyd-offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a’u bwyd-offrwm hwynt, a’u diodydd-offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn. 16Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.
17A’r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a’i rhoddodd ar balmant cerrig. 18A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa’r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr Arglwydd, o achos brenin Asyria.
19A’r rhan arall o hanes Ahas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 20Ac Ahas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.