No themes applied yet
1A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo. 2Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew. 3Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig. 4A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn. 5Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt-hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd. 6Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywedodd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd. 7Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.
8A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara. 9A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol. 10Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni. 11Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd yno. 12Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef. 13Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni â’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo. 14Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen. 15Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws. 16Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn. 17A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.
18A’r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr. 19Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam. 20Ac efe a’i cymerth, ac a’i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw. 21A hi a aeth i fyny, ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws arno, ac a aeth allan. 22A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddywedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o’r llanciau, ac un o’r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf. 23Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd, Pob peth yn dda. 24Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot: nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti. 25Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno. 26Rhed yn awr, atolwg, i’w chyfarfod, a dywed wrthi hi, A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach. 27A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd, Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r Arglwydd a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi. 28Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi? 29Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen. 30A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi. 31A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrôdd y bachgen. 32A phan ddaeth Eliseus i mewn i’r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef. 33Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr Arglwydd. 34Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a’i lygaid ar ei lygaid ef, a’i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen. 35Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a’r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a’r bachgen a agorodd ei lygaid. 36Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab. 37A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.
38Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi. 39Ac un a aeth allan i’r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a’u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt. 40Yna y tywalltasant i’r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o’r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta. 41Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a’i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i’r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.
42A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth, ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont. 43A’i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i’r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill. 44Felly efe a’i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr Arglwydd.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.