No themes applied yet
1Ac ar ôl marwolaeth Saul, pan ddychwelasai Dafydd o ladd yr Amaleciaid, wedi aros o Dafydd ddeuddydd yn Siclag; 2Yna y trydydd dydd, wele ŵr yn dyfod o’r gwersyll oddi wrth Saul, a’i ddillad wedi eu rhwygo, a phridd ar ei ben: a phan ddaeth efe at Dafydd, efe a syrthiodd i lawr, ac a ymgrymodd. 3A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti? Yntau a ddywedodd wrtho, O wersyll Israel y dihengais i. 4A dywedodd Dafydd wrtho ef, Pa fodd y bu? mynega, atolwg, i mi. Yntau a ddywedodd, Y bobl a ffodd o’r rhyfel, a llawer hefyd o’r bobl a syrthiodd, ac a fuant feirw; a Saul a Jonathan ei fab a fuant feirw. 5A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi iddo, Pa fodd y gwyddost ti farw Saul a Jonathan ei fab? 6A’r llanc, yr hwn oedd yn mynegi iddo, a ddywedodd, Digwyddodd i mi ddyfod i fynydd Gilboa; ac wele, Saul oedd yn pwyso ar ei waywffon: wele hefyd y cerbydau a’r marchogion yn erlid ar ei ôl ef. 7Ac efe a edrychodd o’i ôl, ac a’m canfu i, ac a alwodd arnaf fi. Minnau a ddywedais, Wele fi. 8Dywedodd yntau wrthyf, Pwy wyt ti? Minnau a ddywedais wrtho, Amaleciad ydwyf fi. 9Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Saf, atolwg, arnaf, a lladd fi: canys cyfyngder a ddaeth arnaf, oherwydd bod fy holl einioes ynof fi eto. 10Felly mi a sefais arno ef, ac a’i lleddais ef; canys mi a wyddwn na byddai efe byw ar ôl ei gwympo: a chymerais y goron oedd ar ei ben ef, a’r freichled oedd am ei fraich ef, ac a’u dygais hwynt yma at fy arglwydd. 11Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef. 12Galarasant hefyd, ac wylasant, ac ymprydiasant hyd yr hwyr, am Saul ac am Jonathan ei fab, ac am bobl yr Arglwydd, ac am dŷ Israel; oherwydd iddynt syrthio trwy y cleddyf.
13A Dafydd a ddywedodd wrth y llanc oedd yn mynegi hyn iddo, O ba le yr hanwyt ti? Yntau a ddywedodd, Mab i ŵr dieithr o Amaleciad ydwyf fi. 14A dywedodd Dafydd wrtho, Pa fodd nad ofnaist ti estyn dy law i ddifetha eneiniog yr Arglwydd? 15A Dafydd a alwodd ar un o’r gweision, ac a ddywedodd, Nesâ, rhuthra iddo ef. Ac efe a’i trawodd ef, fel y bu efe farw. 16A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr Arglwydd.
17A Dafydd a alarnadodd yr alarnad hon am Saul ac am Jonathan ei fab: 18(Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.) 19O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn! 20Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig. 21O fynyddoedd Gilboa, na ddisgynned arnoch chwi wlith na glaw, na meysydd o offrymau! canys yno y bwriwyd ymaith darian y cedyrn yn ddirmygus, tarian Saul, fel pe buasai heb ei eneinio ag olew. 22Oddi wrth waed y lladdedigion, oddi wrth fraster y cedyrn, ni throdd bwa Jonathan yn ôl, a chleddyf Saul ni ddychwelodd yn wag. 23Saul a Jonathan oedd gariadus ac annwyl yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt: cynt oeddynt na’r eryrod, a chryfach oeddynt na’r llewod. 24Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi. 25Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd. 26Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd. 27Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.