No themes applied yet
1Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon. 2A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a’i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig. 3A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch. 4A da fu’r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel. 5Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd. 6A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di. 7A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon. 8Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl. 9Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom. 10Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef. 11Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer-seba, fel y tywod wrth y môr o amldra, a myned o’th wyneb di dy hun i’r rhyfel. 12Felly y deuwn arno ef i un o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o’r holl wŷr sydd gydag ef. 13Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a’i tynnwn hi i’r afon, fel na chaffer yno un garegan. 14A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr Arglwydd a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr Arglwydd ddrwg ar Absalom.
15Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau. 16Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos; rhag difa’r brenin a’r holl bobl sydd gydag ef. 17Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En-rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas. 18Eto llanc a’u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno. 19A’r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion ŷd; fel na wybuwyd y peth. 20A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A’r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem. 21Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o’r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi. 22Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo’r bore nid oedd un yn eisiau a’r nad aethai dros yr Iorddonen.
23A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dŷ ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. 24Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.
25Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a’i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, mam Joab. 26Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead.
27A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammïel o Lo-debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim, 28A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a ffacbys, a chras bys, 29A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i’r bobl oedd gydag ef, i’w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.