No themes applied yet
1Ac wedi hyn trawodd Dafydd y Philistiaid, ac a’u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg-amma o law y Philistiaid. 2Ac efe a drawodd Moab, ac a’u mesurodd hwynt â llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fesurodd â dau linyn, i ladd; ac â llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision, yn dwyn treth.
3Trawodd Dafydd hefyd Hadadeser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates. 4A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. 5A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. 6A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe. 7Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. 8O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres.
9Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser; 10Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i’w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a’i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo: 11Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r Arglwydd, gyda’r arian a’r aur a gysegrasai efe o’r holl genhedloedd a oresgynasai efe; 12Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba. 13A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.
14Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A’r Arglwydd a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth efe. 15A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. 16A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; 17A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd: 18Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.