No themes applied yet
1Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. 2A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. 3Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. 4Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. 5Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. 6Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. 7Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. 8Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: 9Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. 16Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. 17A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; 18Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. 19Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. 20Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. 21Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 22Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. 23Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. 24Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, 25Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; 26A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.