No themes applied yet
1Gwybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf. 2Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, 3Yn angharedig, yn torri cyfamod, yn enllibaidd, yn anghymesur, yn anfwyn, yn ddiserch i’r rhai da, 4Yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw; 5A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a’r rhai hyn gochel di. 6Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau, 7Yn dysgu bob amser, ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd. 8Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd. 9Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau. 10Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd, 11Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd. 12Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir. 13Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. 14Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; 15Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 16Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: 17Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.