No themes applied yet
1Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o’r eglwys. 2Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf. 3A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.) 4Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a’i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl. 5Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef. 6A phan oedd Herod â’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. 7Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A’i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. 8A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi. 9Ac efe a aeth allan, ac a’i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 10Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a’r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i’r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho. 11A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon. 12Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â’i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo. 13Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a’i henw Rhode. 14A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth. 15Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti’n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw. 16A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synasant. 17Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall. 18Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr. 19Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.
20Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin. 21Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt. 22A’r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw. 23Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai’r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd. 25A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.