No themes applied yet
1Ar ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Gorinth. 2Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o’r Ital, a’i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i’r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt. 3Ac, oherwydd ei fod o’r un gelfyddyd, efe a arhoes gyda hwynt, ac a weithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.) 4Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth, ac a gynghorodd yr Iddewon, a’r Groegiaid. 5A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i’r Iddewon, mai Iesu oedd Crist. 6A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.
7Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a’i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â’r synagog. 8A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a’i holl dŷ: a llawer o’r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd. 9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw: 10Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon. 11Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt.
12A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a’i dygasant ef i’r frawdle, 13Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf. 14Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd-ddygaswn â chwi: 15Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a’r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn. 16Ac efe a’u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle. 17A’r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a’i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny.
18Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i’r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned. 19Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a’u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i’r synagog, ac a ymresymodd â’r Iddewon. 20A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe: 21Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae’n anghenraid i mi gadw’r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus. 22Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia. 23Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
24Eithr rhyw Iddew, a’i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus. 25Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig. 26A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a’i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach. 27A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras; 28Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.